UK breakdown cover
– buy online
Get a quoteArrange cover over the phone
Call us on 0800 085 2721
Broken down?
We can help – call us now
0800 88 77 66
Drwy gadw eich lle ar Gwrs Cynllun Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol Gogledd Cymru mewn ardal heddlu a weithredir gan DriveTech yr AA, rydych yn cytuno i gyd-fynd â’r Telerau a’r Amodau hyn. Gall darparwyr eraill y gwasanaeth o fewn y Cynllun Cenedlaethol gynnig Telerau ac Amodau gwahanol.
Diffiniadau:
• ‘chi’ - h.y. chi, y cwsmer, sef y sawl sy’n derbyn y llythyr gwahoddiad.
Mae’n rhaid i chi gadw eich lle a thalu’r ffioedd ar gyfer y cwrs o fewn y cyfnod cadw lle drwy naill ai gadw lle ar-lein neu ffonio ein tîm Gofal Cwsmeriaid. Drwy gadw lle ar-lein, cewch ddewis y dyddiad a’r amser sydd orau gennych chi. Drwy gadw lle dros y ffôn, cewch gynnig dewis cyfyngedig o ddyddiadau ac amserau a bydd disgwyl i chi ddewis un ohonynt. Ni chaiff unrhyw un arall neu anifail anwes ddod gyda chi ar y cwrs gan nad oes cyfleusterau ar gael ar eu cyfer yn y lleoliadau hyfforddiant. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw anghenion arbennig neu os oes angen cyfieithydd arnoch i fynd ar y cwrs, rhaid i chi roi gwybod i ni pan ydych yn cadw eich lle.
Bydd methu â chadw eich lle a thalu’r ffioedd o fewn y cyfnod cadw lle yn golygu na chewch ddilyn y cynllun a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd.
Cewch dalu drwy ddefnyddio’r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd, â siec neu archeb bost. Nid ydym yn gallu derbyn sieciau sydd wedi’u hôl-ddyddio neu arian parod. Rhaid i sieciau neu archebion post fod yn daladwy i DriveTech (UK) Limited. Rhaid i ni dderbyn eich taliad o fewn 7 diwrnod ar ôl cadw eich lle er mwyn cadarnhau’r trefniadau a’ch lle. Os hoffech dalu llai na 21 diwrnod cyn dyddiad eich cwrs a/neu ar ôl y cyfnod cadw lle, gallwch dalu trwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd yn unig. Cewch dalu bob yn dipyn drwy sefydlu cynllun talu sy’n cynnwys hyd at 3 thaliad. Ar ôl i chi gadw eich lle a thalu am eich cwrs, nid oes modd newid eich trefniadau nac ad-dalu’r ffioedd. Gallwn, os ydym ni a neb arall yn gweld orau, hepgor neu ad-dalu unrhyw ffioedd yn unol â’r telerau a’r amodau hyn.
Talu: Cewch dalu drwy ddefnyddio’r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd, â siec neu archeb bost. Nid ydym yn gallu derbyn sieciau sydd wedi’u hôl-ddyddio neu arian parod. Rhaid i sieciau neu archebion post fod yn daladwy i DriveTech (UK) Limited. Rhaid i ni dderbyn eich taliad o fewn 7 diwrnod ar ôl cadw eich lle er mwyn cadarnhau’r trefniadau a’ch lle. Os hoffech dalu llai na 21 diwrnod cyn dyddiad eich cwrs a/neu ar ôl y cyfnod cadw lle, gallwch dalu trwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd yn unig. Cewch dalu bob yn dipyn drwy sefydlu cynllun talu sy’n cynnwys hyd at 3 thaliad. Ar ôl i chi gadw eich lle a thalu am eich cwrs, nid oes modd newid eich trefniadau nac ad-dalu’r ffioedd. Gallwn, os ydym ni a neb arall yn gweld orau, hepgor neu ad-dalu unrhyw ffioedd yn unol â’r telerau a’r amodau hyn
Rhaid i chi gwblhau eich cwrs erbyn y dyddiad tyngedfennol. Os na fyddwch yn gallu cwblhau eich cwrs yn ystod y cyfnod hwn, ni chewch ddilyn y cynllun a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd. Gyda chaniatâd yr heddlu, gellir gohirio eich dyddiad tyngedfennol.
Rhaid i chi gwblhau’r cwrs yn foddhaol drwy; fod yno, cyrraedd yn brydlon, bod yn bresennol drwy gydol y cwrs a chymryd rhan yn llawn. Dim ond yr hyfforddwr sydd i benderfynu a ydych wedi cwblhau’r cwrs yn foddhaol ai peidio. Rhaid diffodd ffonau symudol a galwyr yn ystod y cwrs.
Os nad ydych yn gallu mynd ar eich cwrs:
1) Oherwydd amgylchiadau eithriadol: e.e. profedigaeth, rhesymau meddygol neu os ydych yn rhiant neu’n ofalwr ac mae eich dibynnydd yn sâl, a gallwch roi tystiolaeth ddogfennol i brofi hynny, cewch aildrefnu eich cwrs yn unol ag amodau ff ac g, cyn belled bod lle ar gael a thrwy dalu hyd at £30 am aildrefnu neu ffioedd aildrefnu fel y nodir yn amod ff, pa un bynnag sydd isaf.
2) Am unrhyw reswm arall: cewch gadw lle ar gwrs arall, cyn belled bod lle ar gael a’ch bod yn talu am y cwrs yn llawn eto â cherdyn credyd neu ddebyd
Os nad ydych yn gallu cwblhau eich cwrs, neu os nad ydych yn cwblhau’r cwrs yn foddhaol:
1) Am eich bod yn cyrraedd yn hwyr: ni chewch fynediad ac ni chewch ddilyn y cynllun, a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd oni bai eich bod yn aildrefnu eich cwrs. Os ydych yn aildrefnu eich cwrs, byddwch yn gorfod talu ffioedd aildrefnu yn unol ag amodau ff ac g oni bai y gallwch roi tystiolaeth y cawsoch eich dal oherwydd anawsterau mawr yn y system cludiant cyhoeddus lleol neu rwydwaith y ffyrdd e.e. digwyddiad o bwys sy’n achosi i drenau neu’r ffyrdd orfod gael eu cau. Bydd disgwyl i chi roi digon o amser ar gyfer eich taith rhag ofn y bydd oedi cyffredinol.
2) Am eich bod wedi methu â phrofi pwy ydych yn foddhaol yn unol ag amod ng: ni chewch fynediad ac ni chewch ddilyn y cynllun a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd oni bai eich bod yn aildrefnu eich cwrs. Os ydych yn aildrefnu eich cwrs, byddwch yn gorfod talu ffioedd aildrefnu yn unol ag amodau ff ac g.
3) Am eich bod dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau: ni chewch fynediad ac ni chewch ddilyn y cynllun a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd. Ni chewch aildrefnu ac ni chewch eich ad-dalu am ffioedd gwreiddiol y cwrs.
4) Am eich bod yn sarhaus, yn aflonyddgar neu’n methu â chymryd rhan yn llawn: cewch eich diarddel o’r cwrs ac ni chewch ddilyn y cynllun a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd. Ni chewch aildrefnu ac ni chewch eich ad-dalu am ffioedd gwreiddiol y cwrs.
5) Am eich bod wedi cael eich gwahardd rhag gyrru neu reidio ers derbyn y cynnig i fynd ar y cwrs: ni chewch ddilyn y cynllun a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd. Ni chewch aildrefnu ac ni chewch eich ad-dalu am ffioedd gwreiddiol y cwrs.
Os ydych yn aildrefnu’r cwrs (gan gynnwys trosglwyddo i gwrs ‘Cynllun Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’ arall a gynhelir gennym o dan amod g) am ba bynnag reswm, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud hynny ac mae’n dibynnu ar y lleoedd sydd ar gael a thalu’r ffi aildrefnu yn unol â hyn dan amod ff. Rhaid cwblhau’r cwrs cyn y dyddiad tyngedfennol. Dyma’r ffioedd sydd ynghlwm ag aildrefnu: ni chodir ffi aildrefnu os ydych yn aildrefnu mwy na 28 diwrnod cyn dyddiad eich cwrs; £30 yw’r ffi aildrefnu os ydych yn aildrefnu rhwng 14 a 28 diwrnod cyn dyddiad eich cwrs; os ydych yn aildrefnu llai nag 14 diwrnod cyn dyddiad y cwrs, bydd y ffi aildrefnu yr un faint â pris y cwrs ar yr amser yr ydych yn aildrefnu. Dim ond â cherdyn credyd/debyd y cewch dalu’r ffioedd aildrefnu.
Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau ‘Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’ ledled y wlad ar gyfer gwahanol awdurdodau’r heddlu. Os hoffech drosglwyddo rhwng y cyrsiau ‘Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’ a gynhelir gennym, bydd y ffi aildrefnu dan amod ff yn cael ei godi. Os ydych yn trosglwyddo i gwrs drytach a gynhelir gennym, bydd angen i chi hefyd dalu’r gwahaniaeth yn y ffioedd rhwng y ddau gwrs (yn ogystal â’ch ffioedd gwreiddiol). Ni chewch unrhyw ad-daliad os ydych yn dewis trosglwyddo i gwrs rhatach. Os ydych yn trosglwyddo i gwrs ‘Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’ a gynhelir gan ddarparwyr eraill, byddwn yn ystyried eich bod wedi canslo eich trefniadau ac ni chewch unrhyw ad-daliad.
Rhaid i chi ddod â’ch trwydded yrru (lawn neu dros dro gyda CBT yn unig) gyda chi i gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Os nad oes gennych y math newydd o drwydded gyda llun arni, bydd rhaid i chi roi prawf addas arall o bwy ydych gyda’ch llun arno e.e. pasbort, yn ogystal â’ch hen fath o drwydded. Os na fydd gennych eich trwydded yrru neu brawf boddhaol o bwy ydych, ni chewch ddilyn y cwrs a bydd yr heddlu yn mynd ati i ystyried eich erlyn am y drosedd, oni bai eich bod yn aildrefnu eich cwrs, cyn belled bod lle ar gael a’ch bod yn talu ffi lawn y cwrs eto â cherdyn credyd neu ddebyd yn unig. Ni ad-delir unrhyw ffioedd gwreiddiol am y cwrs.
Os na fyddwn yn gallu cyflwyno’r cwrs am ba bynnag reswm y tu hwnt i’n rheolaeth ni, byddwn yn aildrefnu’r cwrs cyn gynted ag y bo modd a chyn eich dyddiad tyngedfennol. Ni chodir unrhyw ffioedd ychwanegol.
cyn cadw eich lle ar gwrs, rhaid i chi roi gwybod i ni os oes gennych unrhyw gofynion penodol, er enghraifft, anabledd ac/neu anawsterau mynediad yr hoffech chi i ni eu hystyred wrth ddarparu’r cwrs er mwyn i drefniadau addas gael eu gwneud.
cyn cadw eich lle ar gwrs, rhaid i chi roi gwybod i ni os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol (gan gynnwys beichiogrwydd) a allai eich atal rhag mynd ar gwrs neu amharu ar eich gallu i yrru yn ogystal â chadarnhau eich bod wedi hysbysu’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau am y cyflyrau meddygol hyn.
Gan fod y cwrs yn cynnwys sesiynau gyrru ymarferol, rhaid i chi lwyddo ym mhrawf golwg sylfaenol yr Adran Drafnidiaeth sef darllen rhif car yn llwyddiannus: yr hen fathau o rifau o 20.5 medr a’r mathau newydd o 20m mewn golau dydd da. Os na allwch wneud hyn, ni chewch yrru yn ystod y cwrs sy’n golygu na allwch ei gwblhau. Hwyrach y gallwch aildrefnu eich cwrs yn unol ag amodau ff ac g.
Hyd yr eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn rhoi unrhyw warantau ac nid ydym yn cyflwyno unrhyw gynrychioliadau o unrhyw fath mewn cysylltiad â’r cwrs gan gynnwys, a heb gyfyngiadau, unrhyw awgrym y gwarentir ffitrwydd ar gyfer diben penodol neu farchnadwyedd
|
hyd yr eithaf a ganiateir gan y gyfraith:
I gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau ‘Ymwybyddiaeth o Gyflymder Cenedlaethol’, ac am wybodaeth ynghylch diogeledd talu â cherdyn credyd, ewch i’n gwefan www.AAdrivetech.com neu ysgrifennwch atom i gael copi gan nodi ardal awdurdod yr heddlu a wnaeth eich cyfeirio: AA DriveTech, DriverAware Division, PO Box 6838, Fanum House, Basing View, Basingstoke, RG24 4PX. |