UK breakdown cover
– buy online
Get a quoteArrange cover over the phone
Call us on 0800 085 2721
Broken down?
We can help – call us now
0800 88 77 66

Rydym yn argymell yn gryf i chi ddarllen ein Telerau ac Amodau yn fanwl cyn cadw eich lle.
AA DriveTech yw enw masnachol DriveTech (UK) Limited, sef un o brif ddarparwyr cynlluniau asesu, hyfforddi ac addysgol i yrwyr. Mae isadran Craffter Gyrwyr yn canolbwyntio ar gyflwyno Cynlluniau Ymwybyddiaeth Gyrwyr. Rydym yn aelodau llawn o Gymdeithas Genedlaethol y Darparwyr Cynlluniau Camu i Mewn i Yrwyr (NADIP).
Mae’n dibynnu ar ble ddigwyddodd eich trosedd honedig. Os yw eich llythyr gwahoddiad yn disgrifio’r cynllun fel un ‘cenedlaethol’, cewch ddewis dilyn cwrs mewn ardal awdurdod heddlu ‘cenedlaethol’ arall sy’n cymryd rhan; gall pris a hyd cyrsiau amrywio o un awdurdod i’r llall. I weld rhestr lawn o’r lleoliadau a’r darparwyr hyfforddiant, ewch i https://dors.police.uk neu ffoniwch dîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Craffter Gyrwyr - 0845 345 9623. Sylwer: os yw awdurdod nad ydyw’n rhan o’r cynllun ‘cenedlaethol’ yn cynnig cwrs i chi, dim ond yn y rhanbarth honno y cewch astudio’r cwrs.
Os ydych wedi cael cynnig cwrs ‘Cenedlaethol’ a heb gael llythyr gwahoddiad gennym, cewch gadw lle ar gwrs gyda ni drwy gofrestru eich manylion ar ein gwefan yn www.BookOnline.AAdrivetech.com neu, cewch ffonio dîm Gofal Cwsmeriaid Ymwybyddiaeth Gyrwyr - 0845 345 9623. Cofiwch: dim ond rhwng cynlluniau ‘Cenedlaethol’ y cewch drosglwyddo.
Na chewch. Dim ond gyrwyr sydd wedi derbyn cynnig lle ar gwrs gan yr heddlu sy’n cael astudio’r cyrsiau. Fodd bynnag, mae AA DriveTech yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau hyfforddiant i yrwyr; cewch fanylion yn AAdrivetech.com.
Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn diogelu eich data. Os byddwch yn dewis cymryd rhan, byddwch yn cytuno i ni gymharu eich manylion â chronfa ddata genedlaethol ACPO i weld a ydych wedi cwblhau cwrs tebyg yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf cyn y drosedd.
Os byddwch yn cwblhau cwrs ‘cenedlaethol’, bydd eich manylion mewn cysylltiad â’r cwrs hwn yn aros ar gronfa ddata genedlaethol ACPO at ddibenion ymchwil am ddiogelwch ar y ffyrdd am 7 mlynedd arall ar ôl dyddiad y drosedd. Bydd unrhyw gyfeiriad personol atoch chi’n cael ei ddileu ar ôl hynny. Ni chaiff y manylion hyn eu rhannu gydag unrhyw un arall ar wahân i awdurdodau heddlu eraill y DU os ydynt yn ystyried cynnig cwrs yn y dyfodol.
I weld sut mae AA DriveTech yn rheoli eich manylion personol, ewch i’n polisi preifatrwydd yn theaa.com/termsandconditions/aadrivetech-privacy-policy.html
Er mwyn i ni allu anfon cadarnhad o’ch lle ar y cwrs mewn e-bost o fewn munudau ar ôl i chi dalu am eich lle. Gallwn hefyd anfon neges destun atoch rhag ofn bod rhaid i ni ganslo’r cwrs am ba bynnag reswm.
I wrthod y cynnig, cysylltwch â’n tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Ymwybyddiaeth Gyrwyr - 0845 345 9623.
Ar-lein ar ein gwefan yn www.BookOnline.AAdrivetech.com yw’r ffordd hawsaf, neu cewch ffonio ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Ymwybyddiaeth Gyrwyr - 0845 345 9623. Drwy gadw lle ar-lein, cewch ddewis unrhyw ddyddiad, amser neu leoliad sydd ar gael. Drwy gadw lle dros y ffôn, dim ond rhai dewisiadau fydd ar gael i chi. Rhaid i chi dalu am eich cwrs ymlaen llaw.
Cewch dalu â cherdyn credyd neu ddebyd (ar wahân i American Express). Cewch dalu hefyd â siec neu archeb bost cyn belled â bod digon o amser i’r taliad fynd trwyddo cyn dyddiad eich cwrs. Rhaid derbyn pob taliad ymhen 7 diwrnod o’r dyddiad pryd byddwch yn cadw eich lle ar y cwrs. Bydd eich lle ar y cwrs yn cael ei ganslo oni bai eich bod yn talu ymhen 7 diwrnod.
Os ydych wedi eich cyfeirio at Gwrs Craffter Gyrwyr (Driver Alertness) sy’n cynnwys peth gyrru ar y ffordd, hwyrach y cewch dalu fesul tipyn. Rydym yn caniatáu hyd at dri rhandaliad a rhaid i ni fod wedi derbyn y rhandaliad olaf o leiaf 21 diwrnod cyn dyddiad y cwrs.
Mae eich manylion ‘mewngofnodi’ ar dudalen gyntaf eich llythyr gwahoddiad. Os ydych wedi colli’r wybodaeth hon, ffoniwch ein tîm Gofal Cwsmeriaid Ymwybyddiaeth Gyrwyr - 0845 345 9623 - rhwng 8am a 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Oes, ond hwyrach y bydd rhaid talu ffioedd am aildrefnu – darllenwch yr amod am ‘Aildrefnu’ yn eich Amodau a Thelerau. Cewch aildrefnu ar ein gwefan yn www.BookOnline.AAdrivetech.com.
Byddwch yn cael Cyfarwyddiadau Ymuno naill ai mewn neges e-bost neu drwy’r post. Mae’r cyfarwyddiadau hyn yn cynnwys map o’r lleoliad. Rydym yn argymell yn gryf i chi ddod â’ch cyfarwyddiadau ymuno gyda chi pan fyddwch yn mynd ar y cwrs
Oes, cysylltwch â’n tîm Gofal Cwsmeriaid Ymwybyddiaeth Gyrwyr - 0845 345 9623 – i drafod eich anghenion ag aelod o’n tîm.
Os nad ydych yn deall Saesneg yn ddigon da, gall ffrind neu berthynas ddod gyda chi i gyfieithu ar eich rhan. Cysylltwch â’n tîm Gofal Cwsmeriaid Ymwybyddiaeth Gyrwyr - 0845 345 9623 – i drafod eich anghenion.
Mae’r rhain wedi’u cynnwys yn eich cyfarwyddiadau ymuno fydd yn cael eu hanfon atoch ar ôl i chi gadw lle a thalu am eich cwrs. Cewch hefyd lawrlwytho cyfarwyddiadau yn www.AAdrivetech.com/driveraware
Mae parcio a mynediad yn aml yn dibynnu ar leoliad penodol y cwrs. Bydd y cyfarwyddiadau ymuno’n rhoi manylion llawn ar ôl i chi gadw lle ar gwrs. Mae parcio ar gael i ddeiliaid bathodynnau glas.
Os ydych wedi cadw lle ar gwrs ac nid ydych yn mynd ar y cwrs am ba bynnag reswm (oni bai mewn ‘amgylchiadau eithriadol’), rydym yn argymell i chi gadw lle ar gwrs arall yn ddiymdroi, cyn belled â bod lle ar gael a’ch bod yn talu ffi’r cwrs yn llawn eto. Cewch newid eich trefniant ar ein gwefan yn www.BookOnline.AAdrivetech.com. Os na fyddwch yn aildrefnu, ni chewch gymryd rhan yn y cynllun a bydd yr heddlu yn ystyried eich erlyn am y drosedd. Darllenwch ein hamod am ‘Fethu â bod yn bresennol’ yn ein Telerau ac Amodau.
Rydym yn sylweddoli nad oes modd osgoi salwch, rhai cyflyrau meddygol neu brofedigaeth - dyma enghreifftiau o ‘amgylchiadau eithriadol’. Cewch aildrefnu eich cwrs ond mae’n rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol briodol a thalu unrhyw ffioedd am aildrefnu. Darllenwch ein hamod am ‘Fethu â bod yn bresennol’ yn ein Telerau ac Amodau.
Rhaid i chi fod yno ar amser neu hwyrach na chewch ymuno â’r cwrs. Mewn sefyllfa o’r fath, bydd yn rhaid i chi gadw lle ar gwrs arall, os oes lle ar gael a thalu unrhyw ffioedd am aildrefnu. Ewch i www.BookOnline.AAdrivetech.com i aildrefnu. Darllenwch ein hamod am ‘Fethu â chwblhau’ yn ein Telerau ac Amodau.
If you'd like to chat, tell us a bit about yourself and we'll call you back.
Arrange cover over the phone
Call us on 0800 085 2721
Broken down?
We can help – call us now
0800 88 77 66
© The Automobile Association Limited 2013